Hwyr o haf CD306H
Ers ffurfio'r côr ym 1975 mae nhw wedi bod yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Wyl Cerdd Dant ar ganu gwerin. Mae nhw hefyd wedi bod yn ffyddlon iawn i eisteddfodau a chyngherddau lleol ar hyd y blynyddoedd. Hwn yw eu recordiad cyntaf ers y caset llwyddiannus ym 1996 ac mae'r côr dal i fod o dan arweinyddiaeth Buddug Roberts, y gyfeilyddes yw Alison Edwards. Ceir casgliad o ganeuon cofiadwy ar y CD gan gynnwys Hafan Gobaith, Clychau'r Gog, I'se Weary of Waitin, Hwyr o Haf, Dail yr Hydref, Bridge Over Troubled Water a Gwahoddiad. Recordiwyd y cyfan yn y Tabernacl, Machynlleth ac yn Stiwdio Fflach. 01 Breuddwydio Wnes – allan o ‘Les Miserables’ 02 Hafan Gobaith 03 Clychau’r Gog 04 I’se Weary of Waitin' 05 Bugeilio'r Gwenith Gwyn 06 O Gymru 07 Hwyr o Haf 08 Dail yr Hydref 09 Y Dref Wen 10 Bridge Over Troubled Water 11 Y Cariad Pellennig 12 Gwahoddiad |