Mae bron i ddau fis wedi mynd ers i'r gwaith adeiladu gychwyn yn Neuad Idris, ac mae'r contactiwr - JP Redman - yn gwneud gwaith rhagorol.
Mae'r galeri a'r llwyfan wedi hen ddod lawr, ac mae'r hen doiledau wedi cael eu tynnu allan. Mae'r to newydd yn cael ei roi arno hefyd.
Wele y lluniau i weld y newid hyd yma.
Un nodyn ar y to newydd - mae'n orfodol i ni ddefnyddio llechi lleol ar y to newydd i gyd-fynd a rheolau y Parc Cenedlaethol. O ganlyniad yr ydym wedi prynnu ein llechi o Ffestiniog - Cwar Cwrt y Bugail. Rwy'n cyd-fynd a'r egwyddor o gefnogi cwmniau lleol a'r economi lleol. Ond mae gwrychyn rhywun yn gallu cael ei godi pan ein bod ni yn clywed fod caffi yr Wyddfa yn mynd i ddefnyddio carreg a llechen o Bortiwgal!
Ymddengys fel pebai yna un rheol i un a rheol arall i eraill. Ond rwy'n prysuro i ychwanegu ein bod ni yn Nhy Siamas yn falch i fod wedi medru cefnogi gweithwyr lleol ym Meirionnydd wrth i ni ddatblygu Ty Siamas!