| 06/07/2010 |
Ennillwyr Mehefin Clwb Apel Sesiwn Fawr
|
| 28/05/2010 |
Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
|
| 28/05/2010 |
Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
|
| 28/05/2010 |
Ennillwyr Clwb Apel Sesiwn Fawr Mai
|
| 05/05/2010 |
Newydd yn y Siop
|
| 05/05/2010 |
Llyfr Newydd Y Graig
|
| 31/03/2010 |
Ennillwyr Mawrth 2010
|
| 23/03/2010 |
Sesiwned wedi cael ei ohirio
|
| 02/03/2010 |
Clwb Apel Sesiwn Fawr
|
| 03/02/2010 |
Clwb apel Sesiwn Fawr Ennillwyr Mis Ionawr
|
| 11/01/2010 |
Clwb Apel Sesiwn Fawr
|
| 30/11/2009 |
Ennillwyr clwb Apel Sesiwn Fawr
|
| 26/11/2009 |
SWYDD
|
| 04/11/2009 |
Ennillwyr Clwb apel sesiwn Fawr hydref 2009
|
| 15/07/2009 |
Gigs trwy Dydd!!!! 18/07/09
|
| 20/11/2008 |
Gweithdai Clera
|
| 29/07/2008 |
Jim O'Rourke
|
| 28/05/2008 |
Gwersi Mandolin
|
| 15/05/2008 |
GWERSI GITAR
|
| 15/05/2008 |
CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG
|
| 15/05/2008 |
GWERSI FFIDIL
|
| 06/03/2008 |
Penwythnos Jazz Dolgellau
|
| 27/02/2008 |
Jazz yn Nhy Siamas
|
| 16/01/2008 |
Cefnogaeth yr Heddlu!
|
| 11/12/2007 |
Ceri Rhys Matthews heno
|
| 05/12/2007 |
Gwobr i Dy Siamas
|
| 07/11/2007 |
Canu dros Blant Mewn Angen
|
| 22/10/2007 |
Ceri Matthews a mwy!
|
| 20/06/2007 |
Swydd yn Nhy Siamas
|
| 07/06/2007 |
Mwy o wybodaeth am daith Paul Dooley
|
| 01/06/2007 |
Taith Paul Dooley
|
| 26/04/2007 |
Arddangosfa Prosiect Ysgolion lleol
|
| 13/04/2007 |
Bron a gorffen!
|
| 07/03/2007 |
Rhodd gwerthfawr i Siamas
|
| 24/01/2007 |
Ffilmio'r Arddangosfa
|
| 12/01/2007 |
Cylchlythyr Gaeaf 2006
|
| 07/12/2006 |
Adeiladu - y diweddaraf.
|
| 06/12/2006 |
Gig Meic - newyddion diweddaraf!
|
| 01/12/2006 |
Meic Stevens a'r band a Gwilym Morus
|
| 30/11/2006 |
Yr Arddangosfa
|
| 02/11/2006 |
Radio Cymru - Rhaglen Dei Tomos
|
| 25/10/2006 |
Cyfarfod Twristaidd Llwyddiannus
|
| 16/10/2006 |
Denu twristiad i Ddolgellau – cyfarfod arbennig
|
Rhaid datblygu partneriaeth dwristaidd gyd-weithredol yn Nolgellau er mwyn sicrhau fod mwy o ymwelwyr yn ymweld a’r dref ac yn ei dro fod mwy o arian yn cael ei wario yma. Dyna fydd neges rheolwr Ty Siamas, Mabon ap Gwynfor, wrth gyfarfod arbennig a drefnir gan Dy Siamas yng ngwesty y Ship, Dolgellau, ar nos Fawrth 24ain am 7.30yh gyda gwahoddiad agored i bawb sydd yn ymwneud a thwristiaeth yn y dref a’r cylch.
Bwriad y noson yw i geisio ail sefydlu partneriaeth dwristaidd i Ddolgellau wedi i’r bartneriaeth flaenorol ddod i ben. Ond bellach gyda dyfodiad Ty Siamas a fydd yn gyrchfan ar gyfer twristiaid yn Nolgellau, cred Mabon ap Gwynfor fod yna angen unwaith eto am gydweithio o fewn y diwydiant yn y dref.
Bydd dau siaradwr arbennig yn annerch y cyfarfod. Y cyntaf fydd Kevin Jones sylfaenydd Cymdeithas Dwristaidd Betws y Coed a’r cyffuniau ac sydd bellach yn Ymgynghorydd Twristaidd i’r Gweinidog dros Fenter, Andrew Davies; a’r ail fydd Gwawr Davalan, hwylusydd y rhaglen Medrwn ym Meirionnydd a gogledd Powys, sydd yn rhedeg rhaglenni hyfforddi a datblygu i’r sector dwristaidd.
Meddai Mabon ap Gwynfor:
“Rwy’n grediniol fod cydweithio yn holl bwysig i sicrhau twf pob busnes. Fel datblygiad newydd yn Nolgellau byddwn ni’n falch iawn o gael y cyfle i hyrwyddo busnesau eraill y dref a all gael budd o’r ymwelwyr a ddaw i Dy Siamas. Rwy’n credu fod Dolgellau yn gyrchfan rhagorol i ddarpar dwristiaid, ac fod yn rhaid i ni gyflwyno Dolgellau fel pecyn. Mae gan yr ardal gymaint i’w gynnig, ond dim ond trwy gydweithio y gallwn ni gynnig y pecyn cyflawn i ddarpar ymwelwyr, yn fy nhyb i. Bydd Ty Siamas yn bodoli er budd pawb ac nid er ei fudd ei hunan.”
Gall unrhyw un sydd a diddordeb mewn mynychu y cyfarfod gysylltu a Ty Siamas ar 01341 421800 neu e-bostio idris@tysiamas.com neu ddanfon lythyr at Ty Siamas, Y Sgwar, Dolgellau, LL40 1PU.
Diwedd
Nodiadau:
· Gellir cael rhagor o wybodaeth am gynllun Medrwn drwy ymweld a’u gwefan www.medrwn.org.uk
· KEVIN JONES
Defnyddiodd Kevin Jones ei brofiad o redeg gwesty ym Metws-y-Coed i sefydlu Aberconwy Websolutions Ltd wyth mlynedd yn ol er mwyn cynhyrchu gwefannau a meddalwedd mwy effeithiol wedi eu deilwra at y diwydiant dwristiaeth. Ers hynny mae wedi ennill sawl gwobr am ei waith:
Bwrdd Croeso Cymru – “Gwneud TG i weithio i Dwristiaeth” 2002 “Gwobr eFasnach Cyfle Cymru” 2005 Yn derfynol yng ngwobr “Arloesi ym Marchnata”
Yn ogystal a marchnata mae Kevin wedi bod yn greiddiol wrth gynhyrchu teclynau meddalwedd marchnata twristiaeth megis system Newyddlen Perthynas Cwsmer hawdd iw ddefnyddio www.info4-u.com, sydd ar gael am ddim i bob busnes twristaidd yng Ngogledd Cymru. Teclyn llwyddianus arall yw system bwcio diogel arlein www.enjoyablestay.com oedd yn gyfrifol am 50% o’r bwcio a wnaed yn ei westy yn ystod 2005.
Mae Kevin yn credu’n gryf fod busnesau sydd yn cyd-weithio yn ennill manteision sylweddol dros y rhai sydd yn gweithio yn annibynnol. Mae hyn yr un mor wir yn lleol ag ydyw yn genedlaethol. Dyna pam yr oedd yn ganolog wrth sefydlu a rhedeg Cymdeithas Dwristaidd Betws-y-Coed a’r Cyffuniau, ac yn awyddus i rannu technegau ac arfer da i weithwyr eraill yn y sector dwristaidd yng Nghymru.
Mae Kevin newydd orffen ymarferiad mewn meincnodi lle yr hyfforddwyd 20 busnes yn Llandudno i ddefnyddio technegau e-fasnach ac i gydweithio a’u gilydd mewn partneriaeth. Roedd y canlyniadau yn galonogol gyda lefelau trosiant yn cynyddu o 25% i 45%. Dywedodd nifer o’r rhai a gymerodd rhan eu bont hefyd yn gweld cynnydd yn eu hamser rhydd. Mae Kevin wedi ei ddewis i ymuno a’r Panel Ymgynghori Dwristaidd newydd sydd gyda’r rol o gynghori’r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithio ar faterion twristaidd ac i fonitro gwaith Croeso Cymru (Bwrdd Croeso Cymru gynt). |
| 12/10/2006 |
Datblygiadau Diweddaraf
|
| 13/09/2006 |
www.myspace.com/tysiamas
|
| 12/09/2006 |
Cerddorion Ty Siamas
|
| 12/09/2006 |
Lluniau y gweddill
|
| 23/08/2006 |
Adeiladu - Diweddaraf
|
| 18/07/2006 |
Cylchlythyr Haf 2006
|
| 17/07/2006 |
Cyfweliad Wedi 7
|
| 10/07/2006 |
Can newydd i mi
|
| 27/06/2006 |
Galeri Neuadd Idris
|
| 21/06/2006 |
Y Gwaith ar gychwyn
|
| 10/06/2006 |
Cyflwr Neuadd Idris
|
| 09/06/2006 |
Darn o hanes lleol - Yr Urdd
|
| 09/06/2006 |
Cloch Coll
|
| 25/05/2006 |
Neges 1af
|