Y gobaith yma fydd cadw cofnod o ddatblygiad Ty Siamas wrth i'r hen Neuadd Idris gael ei adnewyddu a'i addasu i fod yn ganolfan fodern aml-gyfrwng ar gyfer cerddoriaeth werin Cymru.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau.
Cyn mynd ymhellach serch hynny dyma apel.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, hanesion, neu atgofion am Neuadd Idris yna dewch draw i'n gweld ni: e-bostiwch, llythyrwch, neu ffoniwch ni yma er mwyn i ni fedru gadw cofnod.