Mae cwmni Siamas wedi penodi y cwmni JANVS i lunio yr arddangosfa.
Mae'r gwaith yn mynd rhagddi yn arbennig o dda ac mae'r cwmni wedi llunio rhai darluniau dehongliadol o sut allai'r arddangosfa edrych wedi ei gwblhau.
Wele'r dehongliadau uchod.
Bydd yr arddangosfa yn gyffrous, bywiog, a rhyngweithiol ac yn caniatau i ymwelwyr gael eu hysbrydoli gan odidogrwydd synau traddodiadol gwerin Cymru!
Mae JANVS yn gwmni profiadol iawn ac wedi gweithio ar amryw o arddangosfeydd amlycaf Ewrop, yn cynnwys Amgueddfeydd ac Archifdau Shetland; Canolfan Jorvik, Efrog; Amgueddfa Ruskin, Coniston; Amgueddfa Hallaton, Caerlyr; Amgueddfa'r Mary Rose, Portsmouth; a llu o arddangosfeydd eraill yng Ngwlad yr Ia, Croatia a gwledydd eraill.