A ninnau bellach yng nghanol gaeaf, gyda gwyntoedd cryfion, cenllysg ac tharannau, mae'r criw sydd yn gweithio ar Dy Siamas yn parhau yn ddygn yng nghanol amgylchiadau anodd.
Serch hynny mae'r gwaith yn mynd rhagddi yn rhagorol, gyda'r awditoriwm wedi hen gymryd ei le, a'r llawr newydd uwch-ben ardal y prif fynedfa wedi ei osod, gyda tho uwch ei ben.
Nid yw'r lluniau yma yn gallu cyfleu yn union sut mae'r adeilad yn edrych ar y foment oherwydd yr holl offer sydd yno, ond mae'r gwahaniaeth sydd iw weld o'r lluniau yma a'r lluniau cyntaf yn berffaith amlwg!