Newyddion Diweddaraf

06/07/2010 Ennillwyr Mehefin Clwb Apel Sesiwn Fawr
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Sesiwn Fawr Mai
05/05/2010 Newydd yn y Siop
05/05/2010 Llyfr Newydd Y Graig
31/03/2010 Ennillwyr Mawrth 2010
23/03/2010 Sesiwned wedi cael ei ohirio
02/03/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
03/02/2010 Clwb apel Sesiwn Fawr Ennillwyr Mis Ionawr
11/01/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
30/11/2009 Ennillwyr clwb Apel Sesiwn Fawr
26/11/2009 SWYDD
04/11/2009 Ennillwyr Clwb apel sesiwn Fawr hydref 2009
15/07/2009 Gigs trwy Dydd!!!! 18/07/09
20/11/2008 Gweithdai Clera
29/07/2008 Jim O'Rourke
28/05/2008 Gwersi Mandolin
15/05/2008 GWERSI GITAR
15/05/2008 CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG
15/05/2008 GWERSI FFIDIL
06/03/2008 Penwythnos Jazz Dolgellau
27/02/2008 Jazz yn Nhy Siamas
16/01/2008 Cefnogaeth yr Heddlu!
11/12/2007 Ceri Rhys Matthews heno
05/12/2007 Gwobr i Dy Siamas
07/11/2007 Canu dros Blant Mewn Angen
22/10/2007 Ceri Matthews a mwy!
20/06/2007 Swydd yn Nhy Siamas
07/06/2007 Mwy o wybodaeth am daith Paul Dooley
01/06/2007 Taith Paul Dooley
26/04/2007 Arddangosfa Prosiect Ysgolion lleol
13/04/2007 Bron a gorffen!
07/03/2007 Rhodd gwerthfawr i Siamas

Mae un o arbenigwyr cerddoriaeth draddodiadol amlycaf Cymru, Roy Saer, wedi rhoi ei gasgliad personol o gylchgronau arbenigol ar y traddodiad gwerin fel rhodd i Dy Siamas, y ganolfan genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth gwerin newydd fydd yn agor yn Nolgellau ym mis Mai eleni, ermwyn dechrau ar archif yn ymwneud a’r traddodiadau gwerin.

Mae Roy Saer yn nodedig fel arbenigwr yn ei faes ar ol bod yn gweithio yn yr adran traddodiadau a thafodiaethau yn yr amgueddfa werin Sain Ffagan rhwng 1963 a 1995. Cychwynodd yno fel cynorthwydd ymchwil gan deithio hyd a lled Cymru yn gwneud recordiadau gwerthfawr yn cofnodi hen arferion a thraddodiadau, cyn mynd ymlaen i fod yn bennaeth ar yr adran bywyd diwyllanol. Yn ystod ei gyfnod yno cyhoeddwyd ar sain Caneuon Llofft Stabl a Hanes y Delyn yng Nghymru mewn lluniau. Bellach mae wedi ymddeol, ond ef yw llywydd y Gymdeithas Alawon Gwerin, ac yn gadeirydd is-bwyllgor alawon gwerin Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008.

Mae Roy wedi rhoi ei gasgliad o Taplas, y cylchgrawn ar gyfer cerddoriaeth gwerin yng Nghymru a’r gororau; SwaFF News, sef y cylchgrawn ar gyfer cerddoriaeth gwerin yn Ne Cymru oedd yn bodoli cyn Taplas; cylchgrawn Dawns o 1981 – 2000; Llafar Gwlad; Allwedd y Tannau; a chylchgronnau eraill. Mae rhai yn dyddio yn ol i 1948. Ynddynt maen’t yn adrodd cyfrolau am y traddodiadau gwerin yng Nghymru yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif.

Meddai Mabon ap Gwynfor, rheolwr Ty Siamas

“Mae gan Roy Saer wybodaeth heb ei ail am y traddodiadau gwerin, ac yn wybyddus i bawb fel arbenigwr yn y maes. Mae wedi bod yn ofnadwy o garedig yn rhoddi’r cylchgronnau yma i ni yn Nhy Siamas, a gobeithiwn allu adeiladu ar hyn i ddatblygu archif gwerthfawr yn ymwneud a’r traddodiadau gwerin yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo.”

Bydd Ty Siamas yn agor ddiwedd mis Mai. Arienir y fenter gan Amcan 1, Cyngor Sir Gwynedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Chronfa Arbrofol Eryri.

Diwedd

Nodiadau:

Llun: Roy Saer yn rhoi rhai o'r cylchgronau i Mai Parry Roberts, aelod o bwyllgor rheoli Ty Siamas.

Ty Siamas yw’r Canolfan Genedlaethol ar Gyfer Cerddoriaeth Gwerin.

Bydd gan Dy Siamas arddangosfa aml-gyfrwng gyffrous, awditoriwm ar gyfer cyngherddau, a chaffi/bar.

Mae Ty Siamas wedi ei leoli yn yr hen Neuadd Idris ar sgwar Dolgellau.
Bydd Ty Siamas yn agor i’r cyhoedd ddiwedd mis Mai, 2007.

Bydd agoriad swyddogol Ty Siamas o’r 14eg i’r 17eg o Fehefin.

Enwyd Ty Siamas ar ol y Telynor o Lanfachreth, Elis Sion Siamas, oedd yn byw ddechrau’r ddeunawfed ganrif, ac y tybir mae ef oedd y cyntaf i gyflwyno y delyn deires i Gymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a: Mabon ap Gwynfor 01341 421800; mabon@tysiamas.com
24/01/2007 Ffilmio'r Arddangosfa
12/01/2007 Cylchlythyr Gaeaf 2006
07/12/2006 Adeiladu - y diweddaraf.
06/12/2006 Gig Meic - newyddion diweddaraf!
01/12/2006 Meic Stevens a'r band a Gwilym Morus
30/11/2006 Yr Arddangosfa
02/11/2006 Radio Cymru - Rhaglen Dei Tomos
25/10/2006 Cyfarfod Twristaidd Llwyddiannus
16/10/2006 Denu twristiad i Ddolgellau – cyfarfod arbennig
12/10/2006 Datblygiadau Diweddaraf
13/09/2006 www.myspace.com/tysiamas
12/09/2006 Cerddorion Ty Siamas
12/09/2006 Lluniau y gweddill
23/08/2006 Adeiladu - Diweddaraf
18/07/2006 Cylchlythyr Haf 2006
17/07/2006 Cyfweliad Wedi 7
10/07/2006 Can newydd i mi
27/06/2006 Galeri Neuadd Idris
21/06/2006 Y Gwaith ar gychwyn
10/06/2006 Cyflwr Neuadd Idris
09/06/2006 Darn o hanes lleol - Yr Urdd
09/06/2006 Cloch Coll
25/05/2006 Neges 1af
Siop Ty Siamas
Caffe & Bar

Adobe Flash