Mae'n bechod gweld Neuadd Idris yn y cyflwr y mae hi ynddi.
Does dim wedi cael ei gynnal yno ers y 'Last Waltz' a gynhaliwyd yno ym Mis Awst 2000. Mae'n rhyfedd sut mae cyflwr adeilad yn dirywio gymaint mewn cyfnod mor fyr.
Ond dyna ni, dyna'r cyflwr yr ydym mi wedi mabwysiadu'r Neuadd ynddi.
Y peth da yw fod y gwaith wedi cychwyn ar atgyweirio'r Neaudd, a dod a'r adeilad yn ol i ddefnydd cyhoeddus.