Newyddion Diweddaraf

06/07/2010 Ennillwyr Mehefin Clwb Apel Sesiwn Fawr
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Sesiwn Fawr Mai
05/05/2010 Newydd yn y Siop
05/05/2010 Llyfr Newydd Y Graig
31/03/2010 Ennillwyr Mawrth 2010
23/03/2010 Sesiwned wedi cael ei ohirio
02/03/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
03/02/2010 Clwb apel Sesiwn Fawr Ennillwyr Mis Ionawr
11/01/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
30/11/2009 Ennillwyr clwb Apel Sesiwn Fawr
26/11/2009 SWYDD
04/11/2009 Ennillwyr Clwb apel sesiwn Fawr hydref 2009
15/07/2009 Gigs trwy Dydd!!!! 18/07/09
20/11/2008 Gweithdai Clera
29/07/2008 Jim O'Rourke
28/05/2008 Gwersi Mandolin
15/05/2008 GWERSI GITAR
15/05/2008 CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG
15/05/2008 GWERSI FFIDIL
06/03/2008 Penwythnos Jazz Dolgellau
27/02/2008 Jazz yn Nhy Siamas
16/01/2008 Cefnogaeth yr Heddlu!
11/12/2007 Ceri Rhys Matthews heno
05/12/2007 Gwobr i Dy Siamas
07/11/2007 Canu dros Blant Mewn Angen
22/10/2007 Ceri Matthews a mwy!
20/06/2007 Swydd yn Nhy Siamas

CYNORTHWY-YDD I’R RHEOLWR

CANOLFAN TY SIAMAS DOLGELLAU
Cyflog £14,000

Yn ystod mis Mehefin gwelwyd agoriad swyddogol Ty Siamas sy’n Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Draddodiadol Cymreig. Bydd hon yn Ganolfan fydd yn hybu cerddoriaeth draddodiadol o fewn yr ardal a Chymru.

Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwy-ydd i’r Rheolwr i ddarparu cymorth i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol, gan gynnwys sustemau ariannol, ac i gynorthwyo yn rhediad cyffedinol y Ganolfan. Yn atebol i’r Rheolwr byddwch gyda amrywiaeth eang o ddyletswyddau ac yn dod i gysylltiad gyda nifer fawr o ymwelwyr a defnyddwyr o’r Ganolfan. Bydd angen sgiliau cyfrifiadurol cadarn.

Am fanylion pellach gallwch gysylltu gyda’r Rheolwr am sgwrs anffurfiol Mabon ap Gwynfor ar 01341 421800.

Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â CV cynhwysfawr erbyn dydd Gwener 29 Fehefin 2007 at:

Mabon ap Gwynfor, Ty Siamas, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY
neu trwy e-bost mabon@tysiamas.com

SWYDD DDISGRIFIAD

(37.5 AWR) £14,000

Pwrpas y swydd:
I gynorthwyo Rheolwr y Ganolfan gyda’r holl ddyletswyddau gweinyddol, yn cynnwys materion ariannol, ac i gymryd cyfrifoldeb am y derbynfa a’r materion llogi er mwyn sicrhau rhediad effeithiol o’r Ganolfan a’i wasanaethau.

Yn atebol i:
Rheolwr y Ganolfan

Prif Ddyletswyddau/Tasgau Allweddol:


I fod yn gyfrifol am:

· Cadw cyfrifon manwl gan ddefnyddio sustem Sage gan sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol a chywir, paratoi gwybodaeth ar daelenni. Cynnigir cymorth gyda’r elfen yma o’r gwaith, gan osod sustem effeithiol fydd yn cyflwyno gwybodaeth ariannol i’r Rheolwr a’r Bwrdd
· Cadw cofnod o’r data er mwyn cymharu targedau gyda’r ffigyrau real, a chyflwyno adroddiadau amserol i’r Rheolwr. Bydd gofyn cynhyrchu gwybodaeth monitro dan gyfarwyddyd y Rheolwr.
· Trefnu ac arolygu rhediad y dderbynfa, man perfformio a’r arddangosfa
· Derbyn cyfrifoldeb rheolaidd am y dderbynfa, man perfformio a’r arddangosfa
· Derbyn cyfrifoldeb am sustem llogi y Ganolfan
· Cadw cyfrif a diweddaru sustem stoc ym mhob agwedd o’r Ganolfan, archebu nwyddau gyda chaniatad y Rheolwr
· Cyd weithio gyda Rheolwr y siop, a staff y caffi/bar.
· Sicrhau fod adnoddau’r Ganolfan mewn trefn ac yn barod i’w defnyddio
· Sicrhau fod safonnau yr atyniad yr uchaf bosibl a chymryd cyfrifoldeb am ddelio gyda phroblemau ee sbwriel, glendid, sicrhau fod yr adnoddau technegol yn gweithio ayb. Cyflogir glanhawr yn ogystal.
· Rhoi gwybod yn syth i’r Rheolwr am unrhyw adnodd sydd wedi torri neu ddim yn gweithio a chynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu gwaith atgywiro
· Trefnu fod ffurflenni arfarnu yn cael eu casglu ac adrodd i’r Rheolwr am unrhyw ddiffygion
· Paratoi cymorth gweinyddol cyffredinol yn cynnwys teipio llythyrau, adroddiadau, casglu data ayb
· Derbyn unrhyw ddyletswyddau arall a all godi o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect.

Amodau

· Telir cyflog yn fisol. Ariannir y swydd yma gan grantiau hyd Fehefin 2008, bydd parhad i’r swydd wedi hyn yn llwyr ddibynnol ar lwyddiant y Ganolfan i greu incwm a’r sicrwydd fod cyllid ar gael i’w hariannu.
· Bydd y cynorthwy-ydd yn atebol i’r Rheolwr a thrwyddo ef i aelodau Bwrdd Cwmni Siamas Cyf
· Bydd y cyfnod rhybudd yn un mis o du’r cwmni ac o du’r aelod staff
· Oriau sylfaenol fydd 37.5 awr/wythnos. Bydd y swydd yn golygu bydd gofyn gweithio rhai penwythnosau mewn rota, gwyliau cyhoeddus, ac yn achlysurol gyda’r nos. Bydd angen gweithio patrwm waith sy’n adlewyrchu gofynion y Ganolfan ac mae’n bosibilrwydd bydd angen mabwysiadu sustem o ‘oriau blynyddol’ h.y. gweithio oriau hirach yn ystod cyfnodau prysurach a gan weithio wythnos fyrrach yn ystod Tachwedd – Chwefror
· Cynigir 20 diwrnod o wyliau yn ystod y 5 mlynedd cyntaf o gyflogaeth, 25 diwrnod ar ol 5 mlynedd a 30 diwrnod ar ol 10 mlynedd. Cynigir 8 diwrnod o wyliau statudol yn ogystal (neu ddiwrnodau ‘in lieu’) Bydd rhaid cymryd gwyliau ar gyfnodau sy’n gyfleus i rediad y Ganolfan.
· Bydd cyfnod prawf o 6 mis
· Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am unrhyw daliadau i gynllun pensiwn
· Cyngir 40c/filltir am deithio ar fusnes y Ganolfan.

Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig ynghyd a CV at :

Mabon ap Gwynfor, Ty Siamas, Dolgellau, Gwynedd LL40 1PY neu trwy e-bost mabon@tysiamas.com erbyn dydd Gwener 29 Fehefin 2007
07/06/2007 Mwy o wybodaeth am daith Paul Dooley
01/06/2007 Taith Paul Dooley
26/04/2007 Arddangosfa Prosiect Ysgolion lleol
13/04/2007 Bron a gorffen!
07/03/2007 Rhodd gwerthfawr i Siamas
24/01/2007 Ffilmio'r Arddangosfa
12/01/2007 Cylchlythyr Gaeaf 2006
07/12/2006 Adeiladu - y diweddaraf.
06/12/2006 Gig Meic - newyddion diweddaraf!
01/12/2006 Meic Stevens a'r band a Gwilym Morus
30/11/2006 Yr Arddangosfa
02/11/2006 Radio Cymru - Rhaglen Dei Tomos
25/10/2006 Cyfarfod Twristaidd Llwyddiannus
16/10/2006 Denu twristiad i Ddolgellau – cyfarfod arbennig
12/10/2006 Datblygiadau Diweddaraf
13/09/2006 www.myspace.com/tysiamas
12/09/2006 Cerddorion Ty Siamas
12/09/2006 Lluniau y gweddill
23/08/2006 Adeiladu - Diweddaraf
18/07/2006 Cylchlythyr Haf 2006
17/07/2006 Cyfweliad Wedi 7
10/07/2006 Can newydd i mi
27/06/2006 Galeri Neuadd Idris
21/06/2006 Y Gwaith ar gychwyn
10/06/2006 Cyflwr Neuadd Idris
09/06/2006 Darn o hanes lleol - Yr Urdd
09/06/2006 Cloch Coll
25/05/2006 Neges 1af
Siop Ty Siamas
Caffe & Bar

Adobe Flash