Newyddion Diweddaraf

06/07/2010 Ennillwyr Mehefin Clwb Apel Sesiwn Fawr
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Sesiwn Fawr Mai
05/05/2010 Newydd yn y Siop
05/05/2010 Llyfr Newydd Y Graig
31/03/2010 Ennillwyr Mawrth 2010
23/03/2010 Sesiwned wedi cael ei ohirio
02/03/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
03/02/2010 Clwb apel Sesiwn Fawr Ennillwyr Mis Ionawr
11/01/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
30/11/2009 Ennillwyr clwb Apel Sesiwn Fawr
26/11/2009 SWYDD
04/11/2009 Ennillwyr Clwb apel sesiwn Fawr hydref 2009
15/07/2009 Gigs trwy Dydd!!!! 18/07/09
20/11/2008 Gweithdai Clera
29/07/2008 Jim O'Rourke
28/05/2008 Gwersi Mandolin
15/05/2008 GWERSI GITAR
15/05/2008 CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG
15/05/2008 GWERSI FFIDIL
06/03/2008 Penwythnos Jazz Dolgellau
27/02/2008 Jazz yn Nhy Siamas
16/01/2008 Cefnogaeth yr Heddlu!
11/12/2007 Ceri Rhys Matthews heno
05/12/2007 Gwobr i Dy Siamas
07/11/2007 Canu dros Blant Mewn Angen
22/10/2007 Ceri Matthews a mwy!

Mae gan Gymru rai o’r alawon godidocaf, ac mae angen rhoi’r cyfle i bobl eu clywed. Dyna yw neges barhaol y pibydd a ffliwtydd enwog Ceri Rhys Matthews. Nid yw’n syndod felly i’r gynulleidfa a fynychodd noson yn ei gwmni ef a’r ffidlwraig ifanc o Ddinbych-y-Pysgod gael eu cyfareddu gyda arlwy o alawon hynafol Cymreig yn awditoriwm Ty Siamas, nos Wener19eg Hydref.

Chwaraeodd Ceri a Christine am dros ddwy-awr, gyda Ceri yn adrodd hanes bywiog yr alawon gan roi cyd-destun y gerddoriaeth i’r gynulleidfa. Cafwyd hefyd ambell i alaw o Loegr gyda Ceri yn cofio yn ôl i’r cyfnod pan oedd yn byw yn nwyrain Lloegr, gyda atgofion melys. Adlewyrchwyd hyn yn y ffordd mwynaidd yr oedd yn ymdrin a’r alawon.

“Gallwn ni ddim dirnad yn llawn pam y bu iddyn nhw gael eu hysgrifennu, a byddwn ni byth yn gwbwl siwr o sut mae’r alawon yma fod i gael eu chwarae – efallai iw cyfansoddwyr eu chwarae mewn modd gwbwl wahanol i ni - ond mae’n nhw fel cysgodion o hanes, ac rydym ni fel trigolion o’r unfed ganrif ar hugain yn eu dehongli a’u chwarae gyda’r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar ein bywydau ni yn lliwio y ffordd yr ydym ni yn eu canu,” meddai Ceri Matthews wrth gyflwyno un alaw o’r bymthegfed ganrif.

Ceri Rhys Matthews yw un o brif gerddorion y traddodiad gwerin yng Nghymru. Mae Ceri hefyd yn cynnal cyfres o wersi ar y ffliwt yn Nhy Siamas i bwy bynnag sydd eisiau dysgu’r ffliwt, pibau, neu chwib bob yn ail nos Fawrth. Cynhelir y gwersi nesaf yn Nhy Siamas ar nos Fawrth 30 Hydref, a gall unrhyw un drefni eu gwers drwy ffonio 01341 421800.

Nesaf yn rhaglen Ty Siamas mae’r gantores o Landysul Fflur Dafydd a’i band Y Barf ar nos Wener 26ain.

Wedyn ceir wythnos i ddathlu Calan Gaeaf, hen draddodiad Cymreig sydd yn mynd yn ôl cyn cof. Ar Calan Gaeaf, Mercher 31 Hydref, bydd cyfle i blant ddod i baentio eu hwynebau yn Nhy Siamas, gyda’r arian yn mynd at achosion da. Wedyn yn yr hwyr ceir noson iasoer yng nghwmni’r cyfryngwr ysbrydion Elwyn Edwards. Mae Elwyn wedi gwneud enw iw hunan fel rhywun sydd gyda’r gallu anghyffredin o gysylltu a’r meirw. Caiff y gynulleidfa gyfle iw holi am ei brofiadau cyn iddo geisio gweld os fydd yna bresenoldeb arallfydol yn eu plith!

Yna ar y nos Wener yr 2il ceir noson ddifyr o straeon arswyd Cymru yng nghwmni Mair Tomos Ifans.

Daw y cwbl i ben ar nos Sadwrny 3ydd yng nghwmni criw o enethod hynod o boblogaidd o Loegr, y Witches of Elswick.
20/06/2007 Swydd yn Nhy Siamas
07/06/2007 Mwy o wybodaeth am daith Paul Dooley
01/06/2007 Taith Paul Dooley
26/04/2007 Arddangosfa Prosiect Ysgolion lleol
13/04/2007 Bron a gorffen!
07/03/2007 Rhodd gwerthfawr i Siamas
24/01/2007 Ffilmio'r Arddangosfa
12/01/2007 Cylchlythyr Gaeaf 2006
07/12/2006 Adeiladu - y diweddaraf.
06/12/2006 Gig Meic - newyddion diweddaraf!
01/12/2006 Meic Stevens a'r band a Gwilym Morus
30/11/2006 Yr Arddangosfa
02/11/2006 Radio Cymru - Rhaglen Dei Tomos
25/10/2006 Cyfarfod Twristaidd Llwyddiannus
16/10/2006 Denu twristiad i Ddolgellau – cyfarfod arbennig
12/10/2006 Datblygiadau Diweddaraf
13/09/2006 www.myspace.com/tysiamas
12/09/2006 Cerddorion Ty Siamas
12/09/2006 Lluniau y gweddill
23/08/2006 Adeiladu - Diweddaraf
18/07/2006 Cylchlythyr Haf 2006
17/07/2006 Cyfweliad Wedi 7
10/07/2006 Can newydd i mi
27/06/2006 Galeri Neuadd Idris
21/06/2006 Y Gwaith ar gychwyn
10/06/2006 Cyflwr Neuadd Idris
09/06/2006 Darn o hanes lleol - Yr Urdd
09/06/2006 Cloch Coll
25/05/2006 Neges 1af
Siop Ty Siamas
Caffe & Bar

Adobe Flash