Newyddion Diweddaraf

06/07/2010 Ennillwyr Mehefin Clwb Apel Sesiwn Fawr
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Ebrill
28/05/2010 Ennillwyr Clwb Apel Sesiwn Fawr Mai
05/05/2010 Newydd yn y Siop
05/05/2010 Llyfr Newydd Y Graig
31/03/2010 Ennillwyr Mawrth 2010
23/03/2010 Sesiwned wedi cael ei ohirio
02/03/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
03/02/2010 Clwb apel Sesiwn Fawr Ennillwyr Mis Ionawr
11/01/2010 Clwb Apel Sesiwn Fawr
30/11/2009 Ennillwyr clwb Apel Sesiwn Fawr
26/11/2009 SWYDD
04/11/2009 Ennillwyr Clwb apel sesiwn Fawr hydref 2009
15/07/2009 Gigs trwy Dydd!!!! 18/07/09
20/11/2008 Gweithdai Clera
29/07/2008 Jim O'Rourke
28/05/2008 Gwersi Mandolin
15/05/2008 GWERSI GITAR
15/05/2008 CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG
15/05/2008 GWERSI FFIDIL
06/03/2008 Penwythnos Jazz Dolgellau
27/02/2008 Jazz yn Nhy Siamas
16/01/2008 Cefnogaeth yr Heddlu!
11/12/2007 Ceri Rhys Matthews heno
05/12/2007 Gwobr i Dy Siamas

Gwobrwyo’r Gorau

Ym Mhlas Tan y Bwlch ar y 15 o Dachwedd 2007, dyfarnwyd 5 “Gwobr Parc Cenedlaethol” gyda chymorth hael Banc Barclays i ddynodi llwyddiant trigolion, sefydliadau a busnesau lleol wrth iddyn nhw gefnogi gwaith ac ethos Parc Cenedlaethol Eryri.

Wrth gyhoeddi’r enillwyr, dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Cyng. Caerwyn Roberts, Y.H. MBE,

“Mae noson fel hon yn gyfle da i ni gael dathlu llwyddiannau ym myd cynllunio. Fel Awdurdod Cynllunio mae tueddiad i feddwl am Barc Cenedlaethol fel corff negyddol sy’n llesteirio datblygiad. Ond mae gwobrau fel y rhain yn gyfle gwych i ni brofi’n wahanol. Mae enillwyr heno wedi dangos ei bod hi’n bosib i gynllunio mewn modd sy’n wreiddiol, yn heriol, ac yn gyffrous heb lesteirio ar fwyniant arbennig y Parc Cenedlaethol. ”

Wrth ddod at eu casgliad rhaid oedd i’r beirniaid ystyried ansawdd dyluniad y cynllun, gwreiddioldeb yr hyn a gyflawnwyd, elfennau o gynaladwyedd yn y cynllun ynghyd ag ystyried i ba raddau y gallasai’r cynllun fod yn enghraifft neu fodel ar gyfer gwaith arall.

Gwobr newydd yw’r wobr Mynediad i Bawb. Am fod yr Awdurdod yn awyddus i hyrwyddo cyfle a mynediad cyfartal i bawb penderfyniad y beirniaid oedd i ddyfarnu’r wobr eleni i Dy Siamas Dolgellau. Dyfarnwyd y wobr i’r fenter hon oherwydd penderfyniad a gweledigaeth y trefnwyr i ddiogelu rhywbeth o bwysigrwydd diwylliannol a chenedlaethol, safon rhagorol y gwaith adfer ac ailwampio mewnol ac allanol yr adeilad, y defnydd o ddehongli synhwyrus o fewn yr amgueddfa, ei effaith ar yr ardal yn nhermau creu swyddi a hybu’r Gymraeg a cherddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â’r defnydd a wneir o adnodau’r Ganolfan gan y gymuned leol gan gynnwys y tangyflogwyr, ysgolion lleol a cholegau.

Yn ystod y noson, derbyniodd enillydd pob categori blac a thystysgrif yn ogystal â gwobr ariannol gan Fanc Barclays.

Dywedodd Gwynfor Jones, Cyfarwyddwr Ardal Barclays Commercial Banking,

“ Yr ydym yn Barclays wedi’n hymrwymo i gymunedau ac rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hwn yn enghraifft fendigedig o staff Barclays yn gweithio’n agos â chymunedau lleol er mwyn cyflawni rhywbeth fydd gobeithio yn gwneud gwahaniaeth real a pharhaol.”

Yn sgil llwyddiant y noson, bwriad Parc Cenedlaethol Eryri yw parhau i wobrwyo enghreifftiau da o waith neu brosiectau sy’n cefnogi pwrpasau’r Parc Cenedlaethol.
DIWEDD

Nodyn I Olygyddion:

1. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gwarchod a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal ac yn hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig yr ardal. Wrth ddilyn yr amcanion hyn, mae’n ddyletswydd arno i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol.

2. Roedd y Panel o feirniaid yn cynnwys :
· Peter Ogden, Cyfarwyddwr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig
· Nick Davies,
· Colin Antwis, Fieldman’s Trust
· Kirsty Henderson

Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol
07/11/2007 Canu dros Blant Mewn Angen
22/10/2007 Ceri Matthews a mwy!
20/06/2007 Swydd yn Nhy Siamas
07/06/2007 Mwy o wybodaeth am daith Paul Dooley
01/06/2007 Taith Paul Dooley
26/04/2007 Arddangosfa Prosiect Ysgolion lleol
13/04/2007 Bron a gorffen!
07/03/2007 Rhodd gwerthfawr i Siamas
24/01/2007 Ffilmio'r Arddangosfa
12/01/2007 Cylchlythyr Gaeaf 2006
07/12/2006 Adeiladu - y diweddaraf.
06/12/2006 Gig Meic - newyddion diweddaraf!
01/12/2006 Meic Stevens a'r band a Gwilym Morus
30/11/2006 Yr Arddangosfa
02/11/2006 Radio Cymru - Rhaglen Dei Tomos
25/10/2006 Cyfarfod Twristaidd Llwyddiannus
16/10/2006 Denu twristiad i Ddolgellau – cyfarfod arbennig
12/10/2006 Datblygiadau Diweddaraf
13/09/2006 www.myspace.com/tysiamas
12/09/2006 Cerddorion Ty Siamas
12/09/2006 Lluniau y gweddill
23/08/2006 Adeiladu - Diweddaraf
18/07/2006 Cylchlythyr Haf 2006
17/07/2006 Cyfweliad Wedi 7
10/07/2006 Can newydd i mi
27/06/2006 Galeri Neuadd Idris
21/06/2006 Y Gwaith ar gychwyn
10/06/2006 Cyflwr Neuadd Idris
09/06/2006 Darn o hanes lleol - Yr Urdd
09/06/2006 Cloch Coll
25/05/2006 Neges 1af
Siop Ty Siamas
Caffe & Bar

Adobe Flash