Hoffwn dynnu'ch sylw i weithdy jazz a drefnir gan Glwb Cerdd Dolgellau yn Nhy Siamas ar fore Sadwrn 15 Mawrth, rhwng 10 a 12 o'r gloch.
Arweinir y gweithdy gan Bedwarawd Michael Garrick, sef Michael Garrick (piano), Martin Hathaway (sacsoffôn), Paul Moylan (bâs dwbl/ukelele) ac Alan Jackson (drymiau). Ysgrifennwyd yn y Guardian y llynedd, yn sgîl lansiad ei CD diweddaraf 'Inspirations', "the world needs reminding that a UK jazz groundbreaker is still at work."
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r gweithdai yna cysylltwch a ni yma yn Nhy Siamas: 01341 421800.
Michael Garrick: http://www.jazzscript.co.uk/
Cynhelir cyngerdd gan y Pedwarawd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor am 7.30yh ar nos Wener 14 Mawrth.