Bu i Maldwyn Thomas daro i fewn y bore yma, ac fe gawsom ni drafodaeth ddifyr am hanes Neuadd Idris.
Mae Maldwyn yn cofio Cloch Coll ar Neuadd Idris a oedd yn cael ei ganu bob tro y byddai rhywun yn mynd ar goll ar Gader Idris.
Oes gan rywrai eraill gof o'r Cloch Coll? Lle y byddai wedi cael ei hongian? Ym mhle y mae'r gloch yma nawr?
Soniodd hefyd am y Gloch Naw oedd ar yr Eglwys. Meddai fod y gloch yma'n cael ei chanu y tro cyntaf i ddynodi y mis, ac yna'r ail dro i ddynodi'r diwrnod. Dychmygwch y swn ar yr 31ain o Ragfyr! Nid yw hyn yn digwydd bellach, ond mae'n hanesyn difyr o Ddolgellau.