Cynhaliwyd cyfarfod y bore yma rhwng y contractiwr buddigol, cwmni lleol JP Redman & Son, a swyddogion o'r Cyngor Sir i drafod y gwaith adeiladu.
Bu i ni fel cwmni bwysleisio ein hawydd i sicrhau y bydd y busnesau lleol yn cael eu handwyo cyn-lleied a phosibl. Yr oedd James Redman a'r Cyngor hwythau hefyd yn awyddus i sicrhau na fyddai'r busnesau yn cael eu heffeithio yn ormodol gan y gwaith adeiladu.
Ar ol trafod goblygiadau iechyd a diogelwch, a'r effaith posibl ar y busnesau lleol, cytunwyd y byddai'r scaffaldiau yn mynd i fyny rhwng y 5ed a'r 9fed o Orffennaf.
Yn ol yr amserlen drafft sydd wedi ei lunio bydd y scaffaldiau i fyny am tua 20 wythnos. Bydd Heol y Gadair yn gorfod cau am 1 diwrnod yn unig - ar ddydd Sul - a bydd y scaffaldiau yn pontio dros y ffordd i ganiatau i fysiau a cherbydau eraill i ddefnyddio'r ffordd. Bydd y scaffaldiau hefyd yn caniatau i bobl i allu fynd i mewn ac allan o'r siopau yn arced Neuadd Idris.
Rhaid canmol swyddogion y Cyngor am eu dealltwriaeth o'r sefyllfa a'i parodrwydd i gydweithio. Gyda'r angen dybryd i newid y to ar Neuadd Idris roedd yr angen am scaffaldiau yn amlwg i bawb.